Dyddiad yr Adroddiad

24/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202309974

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd Mrs B yn cwestiynu a oedd Mr B wedi derbyn gofal a thriniaeth ddigonol gan y Bwrdd Iechyd pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty rhwng 3 a 30 Medi 2022. Yn benodol, holodd a oedd oedi mewn perthynas â’r adolygiad oncoleg.

Canfu’r ymchwiliad fod oedi mewn perthynas ag adolygiad oncoleg Mr B, a achoswyd gan fiopsi hwyr o’i feinwe annormal. Cafodd y methiant hwn ei waethygu gan gam-gyfathrebu ynghylch dyddiad adolygiad ac roedd graddfa a ddefnyddiwyd i fesur statws gweithredol cleifion canser yn anghywir, a oedd yn gwneud llwybr triniaeth Mr B yn llai clir nag y gallai fod. Cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs B a’i theulu, i adolygu ei ddull o gynnal biopsïau Llwybr Brys Lle’r Amheuir Canser ac i nodi pwyntiau dysgu i’w rhannu â’r holl staff perthnasol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu hyfforddiant gloywi i staff perthnasol ar adnodd i fesur statws swyddogaethol claf a’i allu i gyflawni gweithgareddau dyddiol.