Dyddiad yr Adroddiad

27/03/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403221

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) pan oedd hi yng nghamau cynnar ei beichiogrwydd. Cwynodd, pe bai sgan cynharach wedi cael ei gynnal, y byddai wedi gwybod am y beichiogrwydd ectopig yn gynharach ac y byddai wedi gallu cael triniaeth feddygol, yn hytrach nag ymyriad llawfeddygol. Roedd y ffaith bod angen llawdriniaeth yn golygu bod yn rhaid tynnu gweddill y tiwb ffalopaidd. O ystyried cyflwyniad Ms C a’i hanes o feichiogrwydd ectopig, fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd y penderfyniadau dilynol yn glinigol briodol:

• Peidio â chynnal sgan uwchsain pan ddaeth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (ED).
• Peidio â’i chyfeirio at yr Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) o fewn 24 awr neu’n gynt, yn dilyn adolygiad gan y fydwraig.

Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i beidio â chynnal sgan pan gyflwynwyd Ms C i’r Adran Achosion Brys ar 29 Ebrill yn briodol yn glinigol, o ystyried nad oedd unrhyw arwydd clinigol bod angen cynnal sgan uwchsain brys bryd hynny. Canfu’r ymchwiliad hefyd, er y dylai Ms C fod wedi cael cynnig apwyntiad sgan cynharach yn yr EPAU, na fyddai hynny wedi newid yr opsiynau triniaeth a fyddai ar gael iddi. Ni gadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms C.