Dyddiad yr Adroddiad

14/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308228

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mab, B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fe wnaeth yr ymchwiliad ystyried y pryder nad oedd presgripsiwn B o isotretinoin (meddyginiaeth a ddefnyddir i drin acne difrifol) wedi cael ei reoli’n briodol rhwng mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y penderfyniad i gynyddu dos isotretinoin i B, yn dilyn apwyntiad rhithwir dan arweiniad nyrs ar 8 Tachwedd 2022, yn briodol gan fod tystiolaeth bod acne B wedi gwaethygu’n raddol. Yn yr un apwyntiad roedd methiant i weld bod angen i B gael ei weld wyneb yn wyneb ar frys. Canfu’r Ombwdsmon, yn ôl yr hyn sy’n debygol, y gallai adolygiad a thriniaeth gynharach fod wedi cyfyngu ar ddirywiad acne B a’r creithio cysylltiedig. Felly, cafodd cwyn Mrs A ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys ymddiheuro i Mrs A ac i B a thalu £1000 i B i adlewyrchu’r cyfle a gollwyd i gyfyngu ar faint o niwed a ddigwyddodd i’w groen. Cytunodd hefyd i drefnu bod adroddiad yr Ombwdsmon yn cael ei rannu â’r cyfarwyddwr clinigol sy’n gyfrifol am y gwasanaeth dermatoleg a’i drafod mewn cyfarfod llywodraethu clinigol perthnasol.