Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â rhoi ymateb i gŵyn, a wnaed iddo ym mis Rhagfyr 2022, ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w fam-yng-nghyfraith.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chofnodi, cydnabod ac ymateb i’r gŵyn. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i 2 gŵyn arall yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w fam-yng-nghyfraith. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a gytunodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am beidio â chofnodi, cydnabod nac ymateb i’r gŵyn a wnaed iddo ym mis Rhagfyr 2022 ac i ddarparu ymatebion ysgrifenedig i’r 2 bryder pellach yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w fam-yng-nghyfraith. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau hyn o fewn mis.