Cwynodd Miss X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’w chŵyn yn unol â’i broses gwyno fewnol mewn perthynas â’r ffaith bod Miss X wedi cael gwybod yn anghywir ei bod wedi cael strôc.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, a chynnig taliad o £100 o fewn 30 diwrnod gwaith i wneud iawn am yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.