Dyddiad yr Adroddiad

01/24/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208381

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w diweddar ŵr, Mr A. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chanfod ymlediad aortaidd yn yr abdomen ar sgan a gafodd ei diweddar ŵr, a bod y methiant hwn wedi golygu na chafodd driniaeth briodol cyn ei farwolaeth o rwyg mewn ymlediad aortaidd yn yr abdomen.

Canfu’r ymchwiliad fod yr ymlediad aortaidd yn yr abdomen i’w weld ar y sgan a gafodd Mr A ac y dylid bod wedi’i nodi a’i gofnodi. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gŵyn Mrs A. Golygodd y methiant hwn gan y Bwrdd Iechyd na chafodd Mr A driniaeth briodol i’r ymlediad aortaidd yn yr abdomen. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs A hefyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddent yn ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd yn yr ymchwiliad. Cytunwyd hefyd y byddai’r radiolegydd a gofnododd sgan Mr A yn myfyrio ynghylch y digwyddiad hwn yn eu cyfarfod adolygu nesaf ac y byddai’r delweddau’n cael eu rhannu yn y Cyfarfod Dysgu a Digwyddiadau Radioleg lleol er mwyn rhannu trafodaeth a dysgu. Hefyd, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd eu bod wedi adolygu eu prosesau sy’n ymwneud â sut i gofnodi sganiau, ac wedi gwneud newidiadau i leihau’r risg o beidio â sylwi ar ganfyddiadau.