Dyddiad yr Adroddiad

01/25/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301555

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr G am y gofal a ddarparwyd i’w dad, Mr M. Dywedodd Mr G fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi diagnosis yn brydlon i ganser ysgyfaint Mr M, a’u bod wedi rhyddhau Mr M yn amhriodol a heb gymorth lliniarol yn Nhachwedd 2021.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd rheswm i amau bod gan Mr M ganser yr ysgyfaint cyn iddo gael diagnosis. Dylid bod wedi gwneud gwaith dilynol ar ôl canfod newidiadau a hylif yn ysgyfaint Mr M, ond gallai nifer o bethau fod wedi achosi hynny, nid dim ond canser. Hefyd, mae’n debygol na fyddai datblygiad clefyd Mr M wedi newid hyd yn oed pe bai wedi cael ei ganfod yn gynt. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon, ond gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i ystyried atgoffa clinigwyr o bwysigrwydd archwiliadau dilynol ar ôl canfyddiadau digwyddol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y prif fater meddygol wedi cael sylw.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhyddhau Mr M ym mis Tachwedd a’r cynllun dilynol yn briodol. Nid oedd unrhyw bryderon clinigol a ddylai fod wedi’i atal rhag mynd adref ac nid oedd yn bosibl rhagweld pa mor gyflym y byddai ei glefyd yn datblygu, nac atal ei ddirywiad sydyn a’i farwolaeth. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon.