Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307386

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr P fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r cwynion a gyflwynodd ym Mehefin 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cyn ymateb i’r gŵyn a bod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Dr P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Dr P a chyflwyno ymateb i’w gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.