Dyddiad yr Adroddiad

01/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202103161

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs G am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr Mr G, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020 ar ôl llawdriniaeth ar ei ysgwydd. Roedd Mrs G yn pryderu am y canlynol:

a) Methodd y Bwrdd Iechyd ag ymchwilio i’r problemau parhaus ag ysgwydd Mr G a’u trin mewn modd amserol, gan ei adael mewn poen cyson ac yn methu â gwneud llawer o weithgareddau normal dyddiol.

b) Roedd cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â Mr G yn wael. Roedd Mrs G yn pryderu nad oedd staff wedi ystyried yn iawn yr hyn yr oedd Mr G yn ei ddweud wrthynt am ei boen, a bod ei ysgwydd yn ysigo. Hefyd, ar ôl llawdriniaeth yn Nhac

UK English

hwedd 2019, siaradodd y Llawfeddyg â Mr G tra’r oedd yn dal i deimlo effeithiau’r anaesthetig ac nid oedd Mr G yn gallu cofio’r hyn a ddywedwyd wrtho. Mae Mrs G yn dweud na chafodd Mr G gyfle arall wedyn i siarad â’r Llawfeddyg.

c) Er ei fod wedi dweud wrth staff nyrsio ei fod yn alergaidd i fath o orchudd, roedd yn dal i gael ei ddefnyddio, gan achosi llosgiadau a phothelli ar groen Mr G.

ch) Pan gafodd Mr G ei ryddhau i fynd adref ar ôl y llawdriniaeth yn Nhachwedd 2019, dywedwyd wrtho y byddai nyrsys ardal yn ymweld i newid ei orchuddion; fodd bynnag, dim ond un ymweliad a gafodd gan nyrs ardal a ddywedodd wrtho y byddai angen iddo fynd i’w feddygfa deulu yn lle hynny. Achosodd hyn anawsterau sylweddol i Mr G gan fod ei broblem â’i ysgwydd yn golygu na allai yrru.

d) Nid oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mr G yn ystyried ei bryderon yn ddigonol, ac roedd yn cynnwys anghywirdebau.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad a thriniaeth gychwynnol y Bwrdd Iechyd i’r broblem ag ysgwydd Mr G yn briodol. Fodd bynnag, gellid bod wedi cael delweddau manylach cyn cynnal llawdriniaeth arni, ac roedd y penderfyniad a wnaed yn ystod y llawdriniaeth i gynnal hemiarthroplasti (amnewid hanner cymal) yn annhebygol o fod wedi arwain at y canlyniad gorau. Cadarnhawyd y gŵyn hon yn rhannol. Cadarnhawyd yn rhannol hefyd y gŵyn bod y cyfathrebu â Mr G yn wael, mewn perthynas â’r diffyg cyfle i drafod ei bryderon ar ôl ei lawdriniaeth yn Nhachwedd 2019. Ni chadarnhawyd y gŵyn am y gorchuddion gan nad oedd tystiolaeth bod y staff nyrsio wedi defnyddio gorchuddion yr oedd Mr G yn alergaidd iddynt; roedd yn debygol mai rhywbeth arall oedd yn achosi’r problemau â’i groen. Ni chadarnhawyd y gŵyn am ganslo ymweliadau nyrsys ardal gan nad oedd yn afresymol dan yr amgylchiadau i’r nyrsys ardal ddod i’r casgliad y gallai Mr G fynd i’w feddygfa deulu. Yn olaf, cadarnhawyd yn rhannol y mater yn ymwneud ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn i’r graddau nad oedd yn rhoi sylw i’r pryderon am ganslo ymweliadau’r nyrsys ardal.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs G am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad a darparu tystiolaeth eu bod wedi rhannu’r adroddiad â’u llawfeddygon Trawma ac Orthopedig sy’n gwneud llawdriniaethau ar ysgwyddau i roi cyfle iddynt i ddysgu.