Dyddiad yr Adroddiad

08/02/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101442

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss M am yr oedi cyn gwneud diagnosis o ganser yr ofari, a’r methiannau yng ngohebiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) â hi.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyfarwyddo arbenigwr clinigol annibynnol, gyda mewnbwn gan Miss M, i adolygu’r gwaith o reoli ei gofal. Cytunodd hefyd i ystyried unrhyw fethiannau a nodwyd ar gyfer gwneud iawn (mewn proses debyg i honno, sydd wedi’i chynnwys yn y broses gwyno), ac i weithredu ar unrhyw ddysgu neu argymhellion a wnaed mewn perthynas â thriniaeth Miss M neu ar gyfer cleifion yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddrafftio’r llythyr cyfarwyddyd ar gyfer cytundeb Miss M o fewn 10 diwrnod gwaith, gan nodi bod y broses yn debygol o gymryd tua 3 mis.