Dyddiad yr Adroddiad

08/07/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200506

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs F am y driniaeth a’r gofal a gafodd ei diweddar dad, Mr J, gan y Bwrdd Iechyd ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty ym mis Mawrth 2021. Yn benodol, dywedodd Mrs F fod y Bwrdd Iechyd wedi rhyddhau Mr J yn amhriodol i’w gartref ar 7 Mai 2021 pan oedd ganddo symptomau dryswch, brech goch a gwendid ar ochr dde ei wyneb.

Canfu’r Ombwdsmon fod gofal Mr J yn yr ysbyty yn briodol. Er bod dryswch a brech wedi’u nodi yn ei gofnodion clinigol, nid oedd sôn am wendid yn ei wyneb; roedd ei gyflwr yn sefydlog ac nid oedd unrhyw reswm pam na ddylai fod wedi cael ei ryddhau. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.