Dyddiad yr Adroddiad

06/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104390

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss P am ofal a thriniaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer ei harddwrn a oedd wedi torri, a’r oedi a fu cyn cynnal llawdriniaeth. Dywedodd Miss P fod yr oedi hwnnw wedi achosi rhagor o boen iddi, oedi yn y cyfnod gwella, a phryder. Mae Miss P yn awtistig.

Er bod y gofal cyffredinol a ddarparwyd yn cyrraedd safon briodol, canfu’r ymchwiliad fod cyfle wedi’i golli i ddod i benderfyniad gwahanol ynghylch rheoli anaf Miss P, gan nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi trafod y dewis o lawdriniaeth yn briodol gyda hi yn gynharach. Nid oedd dim tystiolaeth ei fod wedi gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, i ystyried awtistiaeth Miss P a’i galluogi i ddeall a chymryd rhan briodol yn y penderfyniadau am ei rheolaeth glinigol (gan gynnwys unrhyw lawdriniaeth gynharach). Roedd y colli cyfle hwn wedi cyfrannu at ofid a phryder Miss P. I’r graddau hynny, dyfarnwyd bod y gŵyn wedi ei chyfiawnhau.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd yr argymhellion a wnaed: ymddiheuro i Miss P am y methiannau a ganfuwyd (o fewn 1 mis) a rhannu’r canfyddiadau â’i Dîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i fwrw ymlaen â phwyntiau dysgu fel y nodwyd yn yr adroddiad (cyn pen 3 mis).