Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207820

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr W nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu cyfarfod i drafod ei gŵyn ddilynol ynghylch diagnosis anghywir.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi i drefnu cyfarfod a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr W. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr W fel dewis arall yn lle cyfarfod, ac i roi ymateb ysgrifenedig iddo i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.