Dyddiad yr Adroddiad

03/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207522

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ymateb iddo i’r gŵyn a wnaeth ym mis Medi 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr K am gynnydd y gŵyn mor aml ag y dylai a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth iddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a cheisiodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr K o fewn 7 diwrnod gwaith a chyhoeddi ei ymateb o fewn 4 wythnos.