Cwynodd Ms S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ymateb i’w chwyn am dderbyniad i’r ysbyty. Cyflwynwyd y gŵyn ym mis Gorffennaf 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Ms S am faterion eraill yr oedd hi wedi’u codi, ond nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â’r materion a gododd Ms S ym mis Gorffennaf 2025.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, o fewn 5 diwrnod gwaith, ymddiheuro i Ms S a rhoi cadarnhad y byddai’n ymchwilio i’w chwyn yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.