Cwynodd Ms B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Ms B ar 23 Rhagfyr 2023 wedi arwain at risg uwch mewn perthynas â’r diagnosis diweddarach a gafodd o gur pen ar ôl trywaniad i’r dwra (“PDPH” – cur pen a achosir pan fydd hylif yn gollwng o safle’r trywaniad yn dilyn triniaeth i asgwrn y cefn). Ystyriodd hefyd a oedd y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Ms B ar 26 Rhagfyr yn glinigol briodol ac ystyried ei hanes clinigol a’i symptomau pan ymgyflwynodd.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod cathetr epidwrol Ms B wedi’i dorri’n ddamweiniol, roedd hi’n glinigol briodol mewnosod ail gathetr epidwrol ac ystyried yr amgylchiadau (tiwb bach, hyblyg yw cathetr epidwrol sy’n cael ei osod yn asgwrn y cefn i roi meddyginiaeth i leddfu poen). Canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi cynyddu risg Ms B o gael diagnosis diweddarach o PDPH. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu i liniaru risgiau o’r fath. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Ms B, ar 26 Rhagfyr, yn glinigol briodol, ac ystyried ei bod wedi cael ei rhyddhau ar ôl cynnal adolygiad priodol o’r symptomau a oedd ganddi pan ymgyflwynodd. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.