Cwynodd Mr B fod ei dad, Mr A, wedi cael ei ryddhau’n gynamserol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) o’r ysbyty ar 20 Awst 2024, heb gynllun gofal a heb gynnal asesiad priodol o’r risg.
Canfu’r ymchwiliad fod rhyddhau Mr A o’r ysbyty yn briodol ac felly ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i roi manylion cyswllt y gwasanaeth y tu allan i oriau i gleifion pan fyddant yn cael stent wedi’i osod ac yn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod.