Cwynodd Mrs A oherwydd ei bod yn anhapus â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng mis Awst a mis Hydref 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na ellid cyflawni unrhyw beth arall mewn perthynas â’r gofal a ddarperir. Roedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ymddangos yn rhesymol. Roedd wedi ymddiheuro lle bo hynny’n briodol, ac wedi amlinellu’r camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i fethiannau cydnabyddedig. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, yn ei ymateb, wedi cynnig cyfarfod i drafod pryder diogelu a fynegwyd gan Mrs A. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y cyfarfod wedi’i gynnal eto. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, o fewn pythefnos, am fethu â threfnu cyfarfod ac i gwblhau trefniadau cyfarfodydd i drafod y pryder diogelu a’r ymateb cyffredinol i’r gŵyn.