Dyddiad yr Adroddiad

17/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407936

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss C ar ran ei phartner, Mr A, am y gofal a’r driniaeth glinigol a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng 7 ac 8 Awst 2023 pan aeth Mr A i adran achosion brys Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) (“yr Adran Achosion Brys”). Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a gynhaliwyd ymchwiliadau priodol i benderfynu a oedd Mr A wedi dioddef trawiad isgemig dros dro (“TIA”) ac a ddarparwyd triniaeth briodol i Mr A yn ystod ei dderbyniad ac ar ôl ei ryddhau.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd ymchwiliad a thriniaeth briodol wedi’u darparu i Mr A yn ystod ei dderbyniad i benderfynu a oedd wedi dioddef TIA. Canfu’r ymchwiliad hefyd ddiffygion mewn cadw cofnodion a chyfathrebu. Yn weinyddol, roedd y diffygion yn y ffordd y cadwyd cofnodion yn gyfystyr â chamweinyddu ac roedd hyn, ynghyd â’r diffygion gofal clinigol, wedi achosi anghyfiawnder i Mr A a’r teulu, gan na fyddent byth yn gwybod a fyddai ymchwiliadau pellach ar y pryd wedi atal strôc yn y dyfodol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Miss C. Un o’r argymhellion a wnaeth yr Ombwdsmon oedd i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms C a Mr A. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd atgoffa staff am y protocol ar gyfer asesu cleifion sy’n cyflwyno â symptomau fel yn achos Mr A.

Er nad oedd delio â chwynion yn un o benawdau’r cwynion yr ymchwiliodd yr Ombwdsmon iddynt, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu am yr anghywirdebau yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn a’r effaith a gafodd hynny ar uniondeb y broses gwyno. Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i fyfyrio a dysgu o’i ymdriniaeth â chwynion yn yr achos hwn.