Dyddiad yr Adroddiad

27/10/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501311

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr P am yr amser a gymerodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg ymateb i faterion pellach a gododd ar ôl iddo fynychu cyfarfod ag ef. Dywedodd nad oedd wedi derbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd erbyn y dyddiad cau a osodwyd a bod yn rhaid iddo fod yn weithredol i wneud unrhyw gynnydd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn anfon yr ymateb pellach ac nad oedd Mr P wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf nac wedi derbyn ymddiheuriad. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chael ei gytundeb y byddai’n anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at Mr P o fewn mis am yr oedi cyn cyhoeddi’r ymateb terfynol, ac am beidio â’i hysbysu am yr oedi.