Dyddiad yr Adroddiad

16/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401370

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar wraig, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Ystyriodd yr ymchwiliad a ddylid bod wedi gwneud atgyfeiriad fasgwlaidd yn dilyn adolygiad Mrs A ac ymchwiliadau gan y Clinig Diagnosis Cyflym ar 6 Rhagfyr 2022.
Canfu’r ymchwiliad, hyd yn oed pe bai atgyfeiriad fasgwlaidd wedi’i wneud, na fyddai arbenigwr fasgwlaidd wedi cymryd camau penodol gan nad oedd cyflwyniad Mrs A yn galw am driniaeth arall ar wahân i’r hyn roedd yn ei chael yn barod.
Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.