Bu i Ms C gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu â darparu ymateb terfynol a bod oedi sylweddol wedi bod.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb terfynol hyd yma, a bod yr oedi a gafwyd wedi peri rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms C. Penderfynodd ddatrys y g?yn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i ysgrifennu at Ms C cyn pen mis i ymddiheuro ac i egluro’r rheswm dros yr oedi, gan gynnig iawndal ariannol o £150 a diweddariad am hynt yr ymateb terfynol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn. Mae hefyd wedi cytuno i ddarparu’r ymateb terfynol i Ms C cyn pen chwe mis.