Bu i Mrs C gwyno am safon y gofal a ddarparwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty”) ym mis Tachwedd 2022.
Bu ymchwiliad yr Ombwdsmon yn ystyried yn benodol, pan oedd Mrs C yn glaf mewnol ym mis Tachwedd 2022, a gynhaliwyd ymchwiliadau priodol ac a roddwyd ystyriaeth briodol i roi diagnosis strôc, ac a oedd yn briodol rhoi fenlaffacsin (cyffur i drin gorbryder, pyliau o banig, iselder) i Mrs C ar lefel y dos a roddwyd (225mg) ar ôl iddi ddweud nad oedd yn ei gymryd mwyach.
Canfu’r ymchwiliad fod Mrs C wedi cael archwiliad hanes ac archwiliad niwrolegol trylwyr a delweddu priodol, yn unol â chanllawiau clinigol. Rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r cwestiwn a oedd Mrs C wedi cael strôc, ond nid oedd canlyniadau ei harchwiliadau na’r delweddu yn cefnogi’r diagnosis hwnnw. At hyn, roedd yn briodol bod Mrs C wedi cael 225mg o fenlaffacsin ar sail yr wybodaeth a roddodd i’r clinigwyr ar y pryd, fel y’i cofnodwyd yn y cofnodion meddygol.
Ni fu i’r Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion hyn.