Dyddiad yr Adroddiad

22/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401281

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, B, gan Fwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, cwynodd Mrs C a oedd yr amser a gymerwyd i gynnal ymchwiliadau cardiaidd ar B ar ôl ei dderbyn i’r Uned Bediatrig yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar 28 Mehefin 2023 yn briodol o safbwynt clinigol.

Canfu’r ymchwiliad, ar sail cyflwyniad B, ei fod wedi’i reoli’n briodol ar ôl ei dderbyn i’r Ysbyty rhwng 28 Mehefin a 1 Gorffennaf 2023. Ni chadarnhawyd y gŵyn.