Cwynodd Mr M nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymateb i’w bryderon dilynol a oedd yn deillio o’r ymateb i’r gŵyn a gafodd ym mis Awst 2023.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi cryn dipyn cyn darparu ymateb dilynol i Mr M. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ymddiheuro i Mr M ac yn darparu esboniad llawn am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnig taliad iawndal o £200 i Mr M ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.