Dyddiad yr Adroddiad

12/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307950

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss Y fod penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ryddhau ei mam-gu, Mrs A, i fynd adref o’r ysbyty ar 16 Chwefror 2023 yn amhriodol. Dywedodd na wnaeth y Bwrdd Iechyd asesu:

• gallu Mrs Z i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd yn ei chartref.

• galluedd meddyliol Mrs Z i benderfynu a ddylai fynd adref.

Canfu’r ymchwiliad fod Ms Z wedi cael ei hasesu’n briodol cyn iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Ar sail hyn, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.