Cwynodd Mr X am safon y driniaeth a ddarparwyd iddo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â’i boen orthopedig. Yn benodol, ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd y profion a’r ymchwiliadau a gynhaliwyd i boen ei glun a’i droed chwith yn ystod derbyniadau i’r ysbyty ym mis Gorffennaf ac Awst 2022 yn rhesymol ac yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y profion a’r ymchwiliadau a gynhaliwyd yn ystod derbyniadau Mr X i’r ysbyty ym mis Gorffennaf ac Awst yn rhesymol a phriodol. Nododd yr Ombwdsmon, ar asesiad, na chanfuwyd unrhyw niwroleg yn y derbyniadau hyn ac ni nodwyd y diagnosisau niwrolegol yn y pen draw. Byddai wedi bod yn arfer clinigol da i MRI cynharach fod wedi’i gynnal, ond ni fyddai hyn wedi arwain at y diagnosis yn gynharach, nac wedi newid y prognosis ar gyfer Mr X. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.