Dyddiad yr Adroddiad

11/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101803

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Yn ystod 2018 cafodd Mrs X ei derbyn ddwywaith i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (“yr Ysbyty”) a gwnaed diagnosis o lid y pancreas. Ym mis Awst 2019 cafodd Mrs X ei derbyn eto â llid y pancreas a dangosodd sgan CT fod carreg fustl yn effeithio ar goden y bustl, ond ni ellir gweld ei phancreas oherwydd nwy’r coluddyn. Ym mis Rhagfyr cafodd Mrs X colecystectomi laparoscopig. Ar 17 Mawrth 2020 cafodd Mrs X ei derbyn i’r Ysbyty gyda phoen yn ei habdomen a dangosodd profion fod dwythell y bustl wedi ymledu’n ddrwg, bod carreg fustl fawr i’w gweld ym mhen dwythell gyffredin y bustl a gosodwyd stent. Cafodd Mrs X ei rhyddhau ar 27 Mawrth. Ar 3 Awst cafodd Mrs X ei derbyn oherwydd amheuaeth bod y stent wedi blocio, ac ar 7 Awst cafodd Mrs X sgan CT a gwnaed diagnosis o ganser y pancreas. Cwynodd Mrs X ynglŷn â phriodoldeb ei rhyddhad o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 27 Mawrth 2020 ac a ddylid fod wedi gwneud diagnosis o ganser terfynol y pancreas cyn 7 Awst 2020. Yn anffodus, bu farw Mrs X ar 24 Hydref 2022.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhyddhad Mrs X ar 27 Mawrth 2020 yn rhesymol. Canfu hefyd na ellid yn rhesymol fod wedi gwneud diagnosis o’r canser cyn 7 Awst 2020. Ni chadarnhawyd cwynion Mrs X.