Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102279

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr K nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diagnosis a thriniaeth briodol am haint ôl-driniaethol a effeithiodd ar ei wraig rhwng Tachwedd 2019 a Gorffennaf 2020. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio’n briodol â’i gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad fod y cymhlethdodau a brofwyd gan Mrs K yn dilyn ei llawdriniaeth bron yn sicr yn ganlyniad i adwaith prin i decstil a ddefnyddiwyd yn ei chlwyf, seroma lleol (mas a achoswyd wrth i hylif grynhoi yn ogystal â haint posibl. Fodd bynnag, roedd yr ymchwiliadau a’r driniaeth i symptomau Mrs K yn briodol a rhesymol drwy gydol ei gofal. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chŵyn Mr K wedi ystyried dymuniad Mr K i gyfrannu a chael ei gynnwys ac na chafodd ei ddiweddaru’n ddigonol ar gynnydd yr ymchwiliad.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr K nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio’n briodol â’i gŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon i ysgrifennu at Mr a Mrs K i ymddiheuro am ei fethiant o ran delio â’r gŵyn; talu £500 i Mr a Mrs K i gydnabod yr effaith emosiynol a achoswyd gan ei gamweinyddu; a newid ei lythyrau cydnabod cyntaf ar gyfer cwynion ffurfiol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnal adolygiad o sut yr oedd wedi delio â chŵyn Mr K, canfod a chymhwyso unrhyw wersi a ddysgwyd a rhoi copi i Mr K o’r adolygiad a diweddariad ar newidiadau ehangach yn Nhimau Llywodraethu’r Bwrdd Iechyd.