Dyddiad yr Adroddiad

11/28/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102462

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs X fod gwrthfiotigau wedi’u rhagnodi’n ddiangen ac amhriodol iddi gan y Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2019. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio’n briodol â’i chŵyn.
Yn ddiweddarach penderfynodd Mrs X ddewis Rhwymedi Cyfreithiol Amgen ac felly caewyd ymchwiliad yr Ombwdsmon i’w chŵyn. Gan na wnaed dim canfyddiadau, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhellion yn achos y gŵyn hon.