Dyddiad yr Adroddiad

11/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203131

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gwrthod gofal a thriniaeth iddi ac nad oedd wedi ymateb i’w chwynion am wasanaethau fasgwlaidd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gwynion Ms A am wasanaethau fasgwlaidd. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad i Ms A ac i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.