Dyddiad yr Adroddiad

11/24/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204201

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am wasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith y Bwrdd Iechyd. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r pryderon a godwyd ganddi ym mis Ebrill 2021.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod pryderon Ms X ac wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol, a’i bod wedi’i rhoi gan Ms X. Penderfynodd y Bwrdd Iechyd fod y gŵyn allan o amser ond ni hysbyswyd Ms X ac ni chafodd eglurhad ychwaith pan nad oedd yn ymchwilio i’w phryderon. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn rhoi eglurhad ysgrifenedig i Ms X am ei benderfyniad i beidio ag ymchwilio i’w chŵyn ac yn ymddiheuro am ei fethiant i beidio hysbysu Ms X, ar ôl cael y gŵyn, na allai ymchwilio iddi oherwydd y cyfnod o amser dan sylw.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr uchod yn setliad rhesymol i gŵyn Ms X.