Dyddiad yr Adroddiad

08/16/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201483

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am nifer o faterion yn ymwneud â’r gofal a ddarparwyd i’w diweddar ŵr cyn ei farwolaeth, gan gynnwys nad oedd wedi’i fonitro’n ddigonol a bod anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarparwyd am amseriad y digwyddiadau yn y cyfnod cyn ei farwolaeth. Cwynodd Mrs A hefyd na roddwyd copi llawn o gofnodion meddygol ei gŵr iddi ac roedd nodiadau ar goll.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y modd yr ymatebodd y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi ymdrin â’r mwyafrif o’r materion dan sylw. Fodd bynnag, roedd yn bryderus am y cofnodion coll. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau yn fewnol ac wedi cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i adrodd am y digwyddiad.
Gofynnodd a chafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad i Mrs A, i dalu iawndal o £1,200, darparu copi o’r cofnodion sydd ar gael ac i gadarnhau’r camau a gymerwyd i atal colli cofnodion yn y dyfodol ac i wneud hynny o fewn mis.