Dyddiad yr Adroddiad

05/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200162

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X, er iddi gael ymateb i’w phryderon gan y Bwrdd Iechyd, ei bod hi’n dal i fod yn anfodlon ac yn credu nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n drylwyr i’w phryderon. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n cysylltu â Mrs Hobbs ac yn cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb gyda hi er mwyn trafod unrhyw bryderon sydd ganddi o hyd erbyn 30 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn bodloni cwyn Ms X.