Cwynodd Mrs X am y gofal a roddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w diweddar dad, yn enwedig mewn perthynas â digwyddiadau ar ôl ei farwolaeth. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chwyn, ond ei bod yn anfodlon â’r canlyniad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs X yn mynd i’r afael â’i holl bryderon. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb pellach i Mrs X o fewn 6 wythnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.