Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202503321

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd. Cwynodd teulu Mr A wrth y Bwrdd Iechyd ar ei ran ar 6 Mai 2024, a chafodd pryderon ychwanegol eu codi 3 wythnos yn ddiweddarach. Roedd Mr A yn anfodlon â’r ymateb i’r gŵyn a gafwyd gan mai dim ond delio â’r pryderon cychwynnol a godwyd yr oedd hyn. Pan holodd Mr A am hyn a chodi pryderon ychwanegol, gwrthododd y Bwrdd Iechyd ymchwilio ar y sail bod ei gŵyn yn rhy hwyr. O ganlyniad, mae’r materion hyn yn parhau i fod heb eu datrys.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r cwestiynau pellach. I ymateb i’r ebost, roedd Meddyg wedi ymweld ag ef ar y ward ac wedi egluro ei gynllun triniaeth. Fodd bynnag, o ystyried lefel y pryder a natur y cwestiynau a godwyd, nid oedd hyn yn briodol nac yn ddigonol. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ailystyried cwyn Mr A o fewn 6 wythnos a rhoi ymateb pellach i’r gŵyn iddo, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am fethu â mynd i’r afael â’i holl bryderon yn flaenorol.