Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu â mynd i’r afael â’i bryderon ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar dad tra yn yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn, nad oedd yn cydymffurfio â Rheoliadau ‘Gweithio i Wella’ (“PTR”) ac nad oedd ychwaith wedi mynd i’r afael yn briodol â’r pryderon a godwyd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad ac esboniad, o fewn 4 wythnos, am beidio ag ystyried y gŵyn drwy’r broses PTR, a darparu ymateb terfynol i’r gŵyn sy’n cydymffurfio â PTR.