Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202503090

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y driniaeth ddeintyddol a ddarparwyd iddo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”), yn benodol ynghylch yr amser a gymerodd i gwblhau ei driniaeth. Roedd hyn yn cynnwys tynnu ei gilddannedd, atgyweirio dannedd blaen wedi’u torri, ac archwiliad iechyd cyffredinol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â phryderon Mr X yn anffurfiol, nad oedd wedi darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’r pryderon a gododd yn ei e-bost dyddiedig 31 Ionawr 2025.

Felly penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i ohebiaeth Mr X o fewn 1 mis.