Dyddiad yr Adroddiad

19/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502873

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd rhwng Tachwedd 2022 ac Ionawr 2023, ar ôl iddi lyncu pethau dieithr.
Canfu’r asesiad fod yr ymateb wedi’i ohirio ac nad oedd yn ymddangos ei fod wedi cael ymateb o dan y broses pryderon. Felly, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r gŵyn o dan y broses pryderon, ymddiheuro a chynnig taliad o £250 i gydnabod yr oedi cyn ymateb. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 2 fis.