Bu i Ms L gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’w chwyn a gyflwynwyd ganddi ym mis Rhagfyr 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag anfon llythyrau diweddaru/ateb dros dro yn ystod ei ymchwiliad. Parodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth ychwanegol i Ms L. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i geisio ymateb i’r gŵyn cyn pen pythefnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn. Pe na bai’n ymateb i’r gŵyn o fewn y cyfnod hwnnw, cytunodd i anfon llythyrau diweddaru/ateb dros dro misol hyd nes iddo ymateb i’r gŵyn.