Bu i Miss C gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Ionawr 2024. Bu’r ymchwiliad yn ystyried a ddarparwyd gofal nyrsio priodol i asesu cyfanrwydd croen Mrs B, ei fonitro, a’i atal rhag dirywio. Bu hefyd yn ystyried a ddarparwyd gofal nyrsio priodol i sicrhau bod cymeriant hylif Mrs B yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod diffygion o ran y gofal nyrsio a ddarparwyd i Mrs B mewn perthynas â chynnal cyfanrwydd ei chroen. Cafodd y g?yn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd ei bod yn briodol na roddwyd hylifau mewnwythiennol i Mrs B a’i bod wedi cael cymorth priodol o ran cymeriant hylif. Ni chafodd y g?yn hon ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss C. Cytunodd hefyd i rannu adroddiad yr ymchwiliad â’r staff nyrsio i dynnu sylw at y diffygion a bennwyd, i atgoffa staff i sicrhau bod asesiadau’n cael eu cynnal yn llwyr a’u dogfennu’n briodol, ac i atgoffa staff o bwysigrwydd ail-leoli cleifion.