Cwynodd Miss A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi gwybodaeth briodol iddi pan gafodd ei thad ei dderbyn i’r ysbyty, nad oedd wedi darparu gofal a thriniaeth briodol iddo. Cwynodd Miss A hefyd na ellid dod o hyd i gofnodion meddygol ei thad, i gyfrannu at ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’w phryderon.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr ymateb a roddwyd i Miss A gan y Bwrdd Iechyd yn egluro pa gofnodion meddygol oedd ar goll a allai fod yn sail i ymchwiliad llawn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi eglurhad cynhwysfawr i Miss A o ba gofnodion oedd ar gael ac a oedd ar goll ar adeg ymchwiliad cyntaf y Bwrdd Iechyd, ac i gynnal ymchwiliad llawn i’r pryderon a fynegwyd gan Miss A ac i baratoi ymateb cynhwysfawr o fewn 4 wythnos. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnig iawndal o £250 i Miss A am yr ansicrwydd a achoswyd, yn ogystal â’r amser a’r drafferth yr aeth iddo i baratoi cwyn i’r Ombwdsmon.