Cwynodd Mrs F ynghylch a oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ymgysylltu’n briodol â hi pan oedd ei mam, Mrs G, yn glaf mewnol ac a oedd wedi gweithredu yn unol â pholisïau a rheoliadau perthnasol ynghylch rôl Mrs F fel atwrnai i Mrs G.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymgysylltu’n briodol â Mrs F pan oedd ei mam yn glaf mewnol. Ni chafodd Mrs F wybod pan gafodd Mrs G ei symud i ysbyty gwahanol. Cafodd Mrs F wybod am newidiadau i driniaeth a chyflwr ei mam drwy ddarllen ei nodiadau meddygol. Roedd y rhain yn fethiannau gan y Bwrdd Iechyd a oedd wedi achosi gofid i Mrs F. Nid oedd y Bwrdd Iechyd yn gweithredu ychwaith yn unol â pholisïau a rheoliadau perthnasol ynghylch rôl Mrs F fel atwrnai i Mrs G. Ni chymerodd gamau priodol pan gafodd wybod am rôl Mrs F fel atwrnai na phan na ellid cytuno ar drefniadau rhyddhau ar gyfer Mrs G. Roedd y rhain yn fethiannau gan y Bwrdd Iechyd ac yn anghyfiawnder i Mrs F a fydd yn amau am byth beth fyddai’r canlyniad wedi bod pe bai polisïau a rheoliadau wedi cael eu dilyn. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs F.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs F a chynnig taliad o £750 i gydnabod y trallod a’r ansicrwydd a achoswyd iddi gan y methiannau hyn. Cytunodd hefyd i drafod yr ymchwiliad gyda’r staff a oedd yn ymwneud â gofal Mrs G er mwyn iddyn nhw bwyso a mesur sut roedden nhw wedi cyfathrebu â Mrs F. Cytunodd hefyd i sicrhau bod staff yn gyfarwydd â gweithdrefn y Bwrdd Iechyd ynghylch rôl atwrneiod a’r polisïau a’r protocolau i’w dilyn wrth geisio cael caniatâd yn ôl y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.