Dyddiad yr Adroddiad

20/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202406252

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi canllawiau penodol i’r cyhoedd ynglŷn â’r dull triniaeth a’r llwybr gofal gorau ar gyfer plant â Ffibrosis Systig sy’n dioddef o anymataliaeth wrinol sylweddol.  Dywedodd Mrs X fod ei phlentyn wedi cael ei gadael i ddioddef am 18 mis heb gael ei chyfeirio am driniaeth.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu apwyntiad i ferch Mrs A o fewn cyfnod rhesymol ac nad oedd ganddo ganllawiau llwybr penodol wedi’u cyhoeddi.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mrs X a’i phlentyn.  Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gysylltu â Mrs X i gadarnhau apwyntiad gyda’r Clinig Bioadborth a gynhelir gan y Nyrsys Arbenigol Ymataliaeth (o fewn 3 wythnos), a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.  Dylai hefyd ystyried cyhoeddi canllawiau ar y dull triniaeth a’r llwyr gorau ar gyfer plentyn sydd ag anymataliaeth wrinol.