Dyddiad yr Adroddiad

01/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201990

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C ynghylch pa mor briodol oedd y driniaeth a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar 6 Gorffennaf 2021. Dywedodd Ms C ei bod wedi cael diagnosis a phrognosis anghywir a achosodd iddi gau ei busnes a dioddef llawer o boen meddwl.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd i Ms C pan aeth hi i’r Ysbyty ar 6 Gorffennaf 2021 o safon briodol ar y cyfan. Gwnaethpwyd diagnosis clinigol cywir, a dangosodd y dystiolaeth fod hyn wedi’i esbonio i Ms C. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.