Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208213

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs W am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, Y, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rhwng ei enedigaeth yn Awst 2017, a Rhagfyr 2022. Yn benodol, cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chynnal ymchwiliadau a phrofion priodol i roi diagnosis i Y o goluddyn dyblyg a ffistwla recto-wrethrol (lle mae twll bach yn ffurfio rhwng yr wrethra a’r rectwm) ac wedi methu ag atgyfeirio Y i ysbyty arbenigol ar yr adeg briodol.

Canfu’r ymchwiliad y bu oedi cyn i Y gael diagnosis ar gyfer ei symptomau, a chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfuwyd hefyd, er ei bod yn briodol atgyfeirio Y i ysbyty arbenigol yn Awst 2022, pan ganfuwyd ysgarthion yn ei droeth, y byddai wedi bod yn briodol ei atgyfeirio’n gynharach oherwydd ei symptomau diesboniad parhaus. Cadarnhawyd y gŵyn hon hefyd.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs W am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal ariannol o £1000 i gydnabod y straen a’r anghysur parhaus a achoswyd gan yr oedi cyn cynnal profion priodol a gofyn am ail farn. Cytunwyd hefyd y byddent yn rhannu’r adroddiad terfynol â chlinigwyr perthnasol, yn eu hatgoffa bod angen cynnal cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol â’r holl glinigwyr perthnasol gan ddarparu’r holl ddelweddau sydd ar gael o blant â materion cymhleth, a’u hatgoffa i geisio ail farn am blant cymhleth os nad yw eu symptomau’n gwella.