Dyddiad yr Adroddiad

10/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203368

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd Mrs Y yn 69 oed ac ar 7 Rhagfyr 2021 cafodd ei derbyn i’r ysbyty gyda phoen yn yr abdomen, dolur rhydd a chwydu. Cwynodd Mr S am driniaeth Mrs Y rhwng 7 a 12 Rhagfyr 2021. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd yr oedi a wynebodd Mrs Y wrth gael ei rhoi ar ward yn niweidiol iddi gan ei bod wedi derbyn gofal parhaus. Canfu hefyd ei bod yn annhebygol bod Mrs Y wedi dioddef rhwyg yn y coluddyn ar 7 Rhagfyr, gan nad oedd sgan CT wedi dangos aer rhydd o fewn yr abdomen a bod ei rheolaeth yn briodol ar gyfer diagnosis o ddirectiwlitis nad yw’n gymhleth.

Canfu’r Ombwdsmon fod diagnosis gwahaniaethol Mrs Y ar 11 Rhagfyr yn cynnwys y posibilrwydd o rwyg, a arweiniodd at ragor o adolygiadau a sgan CT a oedd yn dangos bod Mrs Y wedi cael rhwyg. Canfuwyd mai hwn oedd y cyfle cyntaf i fod wedi nodi’r pryder, heb unrhyw oedi cyn ei ddiagnosio. Pan ofynnwyd am ganiatâd, rhybuddiwyd Mrs Y yn briodol fod gan y driniaeth arfaethedig risg o farwolaeth o 43.3%. Rhoddodd Mrs Y ganiatâd i gael laparotomi ar gyfer triniaeth Hartmann (tynnu’r rhan afiach o’r coluddyn mawr i ffurfio agoriad newydd ar gyfer cynnwys y coluddyn), a chafodd driniaeth ar 12 Rhagfyr. Canfu’r Ombwdsmon fod triniaeth Mrs Y rhwng 7 a 12 Rhagfyr yn briodol ac yn amserol. Yn anffodus, bu farw Mrs Y ar 26 Rhagfyr. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.