Dyddiad yr Adroddiad

08/04/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107807

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms A nad oedd llythyr clinig y Niwrolegydd at y Meddyg Teulu yn adlewyrchiad cywir o’r ymgynghoriad dros y ffôn a gafodd gydag ef na’r cynllun triniaeth feddygol y cytunwyd arno. Cwynodd hefyd am gywirdeb ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn o ran agweddau ar yr ymgynghoriad.

Roedd y Niwrolegydd yn derbyn bod recordiad sain Ms A o’r ymgynghoriad yn gywir. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chynnig yr Ombwdsmon i setlo drwy ymddiheuro i Ms A am y gwallau yn ei ymateb i’r gŵyn a’i fod yn atgoffa clinigwyr ynghylch yr angen i gofnodi ymgynghoriadau â chleifion yn gywir.