Dyddiad yr Adroddiad

08/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206628

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A nad oedd y gofal a’r driniaeth glinigol a gafodd yn adran achosion brys ysbyty Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd safon briodol. Yn benodol, methodd â chynnal sgan CT o’r pen, gan arwain at golli cyfle i wneud diagnosis o bwl o isgemia dros dro (amhariad dros dro ar y cyflenwad gwaed i’r ymennydd sy’n achosi diffyg ocsigen dros dro. Mae mân strôc yn derm arall sy’n cael ei ddefnyddio am hyn).

Ar sail yr wybodaeth a welwyd a’r cyngor a gafwyd, canfuwyd bod natur yr archwiliadau a’r asesiadau a gynhaliwyd yn yr ysbyty yn ddigonol. Ni nodwyd bod angen sgan CT ar sail symptomau Mr A a’r hanes meddygol a oedd ar gael. Roedd yr ymchwiliadau a’r atgyfeiriad at dîm orthopedig yn briodol ar gyfer y gwendid yn arddwrn Mr A, sef y rheswm dros ddod i’r ysbyty. Rwy’n fodlon fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr A yn cyrraedd safon briodol. Felly, ni chadarnhawyd y gŵyn.