Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300112

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) ei fod wedi methu cyfathrebu canlyniadau profion geneteg i’w Bwrdd Iechyd lleol. Cwynodd hefyd am y ffaith ei bod wedi cysylltu â’i dîm Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (“PALS”) am y mater hwn ar sawl achlysur, ond ni ddychwelodd neb ei galwadau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon canlyniadau profion Miss A i’w Bwrdd Iechyd lleol drwy’r post. Roedd hi’n credu y gallai fod ffordd fwy dibynadwy, hwylus a diogel o gyfathrebu canlyniadau profion yn electronig. Ar ben hynny, canfu nad oedd cwyn Miss A a gyflwynwyd i’r Bwrdd Iechyd yn cyfeirio’n benodol at ei hymdrechion i gysylltu â’r tîm PALS, ac felly efallai nad oedd hyn yn glir i’r Bwrdd Iechyd wrth ymchwilio i’w chŵyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd. O ran cyfathrebu canlyniadau profion, cadarnhaodd fod system rheoli gwybodaeth newydd eisoes wedi’i phrynu a’i bod wrthi’n cael ei rhoi ar waith, sy’n golygu y byddai adroddiadau geneteg yn cael eu rhannu’n ddi-dor ac ar unwaith â systemau clinigol eraill ledled Cymru. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ar hyn ac nid oedd yn teimlo bod angen ymyrryd ymhellach. O ran cyswllt Miss A â’r tîm PALS, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig pellach iddi, yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn benodol, o fewn 20 diwrnod gwaith.